Adeiladwyd Ysgoldy Goch (coch yw’r to!), sy’n eiddo i’r eglwys, yn 1891 gan Mrs Sarah Waddingham, gwraig y diweddar John Waddingham, i gynnal yr ysgol Sul. Yn 2005 dyfarnwyd i’r adeilad safle rhestredig Gradd II fel adeilad eiconig o’r arddull Dadeni Gothig terfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gysylltir ag Ystad yr Hafod. Noda’r arysgrif ar y garreg sylfaen ar ochr yr adeilad: Codwyd er clod i Dduw gan Mrs Sarah Waddingham yn y flwyddyn 1891.
Golyga gwelliannau diweddar fod yma neuadd gyfforddus ac ymarferol gyda chegin newydd, toiledau a maes parcio helaeth oddiar y ffordd.
Saif yr adeilad ar y B4574 rhyw 400m i’r gogledd-ddwyrain o adeilad Eglwys Newydd yn union ar ffin Ystad yr Hafod. Cyfeiriad grid 27707 27394.