Hanes Eglwys Newydd Hafod

Yr Eglwys yng Nghymru: Esgobaeth Tyddewi
Gwasanaethau

Mae croeso cynnes i bawb ymuno yn y gwasanaethau yn Eglwys Newydd Hafod, a gwelir trefn y gwasanaethau drwy glicio yma.

Paneli Hanes

Chwilotwch drwy’r paneli hanes a gomisiynwyd gan Eglwys Newydd Hafod.

Hanes Manwl

Bu’r Eglwys yn rhan bwysig o’r gymdeithas am dros 400 mlynedd a bu llawer o ymchwil i’r hanes cymdeithasol.

Gwydr Lliw

Mae hanes hir a diddorol iawn i wydr lliw Eglwys Newydd Hafod, ac ynddo mae mân – ddarnau o’r engrheifftiau gwydr gorau o gyfnod y Dadeni yng Nghymru.

Ysgoldy Goch – Neuadd yr Eglwys

Rhodd ydoedd yn 1891 i’r eglwys gan y teulu Waddingham, perchnogion Ystad yr Hafod o 1872 i 1940. Parheir i ddefnyddio’r Ysgoldy i gynnal digwyddiadau lleol hyd y dydd heddiw.

Oriel

Archwiliwch ein horiel o luniau yr eglwys.

Hanes Eglwys Newydd Hafod

Mae hanes yr eglwys yn gysylltiedig ag Ystad Hafod Uchtryd. Dylanwadodd cenedlaethau o’r Sgweiriaid ar yr adeilad ac ar weithgaredd gorffennol yr eglwys.

Mae Eglwys Newydd yr Hafod, a elwir hefyd yn Eglwys yr Hafod, yn gysygredig i Sant Mihangel a’r Holl Angylion. Mae’r eglwys yn adeilad trawiadol Gradd II*, sydd â chyfoeth o hanes diddorol ond trist, wedi ei lleoli mewn ardal dawel, ar gyrion ystad hudolus yr Hafod, a hynny mewn ardal ar Fynyddoedd yr Elennydd.

Mae’r eglwys wedi bod yn rhan annatod o’r gymuned am dros 400 o flynyddoedd. Mae nifer o Sgweiriaid yr Ystad wedi’u claddu yn y fynwent, ynghyd â Chapteiniaid y gweithfeydd mwyn lleol, mwyngloddwyr, ffermwyr, bugeiliaid, crefftwyr, masnachwyr a gweithwyr yr Ystad. Mae yna lawer o waith ymchwil wedi’i wneud i’r hanes cymdeithasol, ac mae gennym giosg sgrin gyffwrdd yn yr eglwys bellach i alluogi ymwelwyr sy’n ymchwilio i’w hanes teulu ddod o hyd i feddau eu hanwyliaid yn hwylus. Mae’r Sefydliad Cadwraeth wedi cadarnhau bod un o goed y fynwent gyda’r hynaf yng nghanolbarth Cymru.