Cafodd y gwydr lliw sydd erbyn hyn yn llenwi ffenestr gorllewinol yr eglwys ei wneud yn stiwdio Llundain- Heaton, Butler and Bayne, ar ol i’r eglwys gael ei hadnewyddu yn 1933. Dyma’r hyn a osodwyd yn lle’r gwydr lliw Dadeni gwreiddiol o’r Iseldiroedd a roddywd i’r eglwys gan Thomas Johnes tua 1805, ac a oedd yn darlunio golygfeydd o’r Testament Newydd yn bennaf.
Yn dilyn y tân yn 1932, llwyddwyd i achub darnau o wydr ymhlith y teils a’r metal tawdd a adawyd ar lawr yr eglwys. Cafodd y darnau hyn eu trefnu ar ffurf diamwntau a chylchigau a’u gosod o fewn y ddwy ffenestr bob ochr i ffenestr ganol y gangell.
Does dim ond un olygfa yng ngwydr lliw’r ffenestr y gallwn ei hadnabod yn amlwg erbyn hyn, sef llun o ben Ioan Fedyddiwr yn cael ei dorri. Mae’r golygfeydd anghyflawn yma yn ogystal a lluniau o bennau a dwylo wedi eu creu mewn paent a staen arian, at ei gilydd yn awgrymu eu bod yn dod o’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae rhai o luniau y pennau yn awgrymu arddull y gwydr lliw a wneid yng ngweithdai Louvin yr adeg honno. Y peth hynod yw mai’r unig ddyddiad a welir ar y darnau yw 1632, er nad oes fawr iawn o dystiolaeth o’r lliw enamel a oedd yn nodweddiadol o wydr lliw o’r unfed ganrif ar bymtheg gael ei ddefnyddio.
Yn ddiweddar daeth i’r amlwg i o leiaf peth o wydr lliw Dadeni Thomas Johnes gael ei brynu mewn eglwys abaty yn Antwerp, lle cawsai afael ar ‘holl ysbail yr Abaty’ tua 1803. Gan i weddill y gwydr lliw yma gael ei ddifa gan y tân, y tameidiau yma yw’r unig beth sy’n weddill o’r hyn a ystyrid y casgliad gwychaf o wydr lliw Dadeni yng Nghymru.
“Stained Glass At Hafod ” gan Martin Crampin www.martincrampin.co.uk www.sulien.wales
