Yr Eglwys Hanesyddol
Mae hanes yr eglwys yn gysylltiedig ag Ystad Hafod Uchtryd. Dylanwadodd cenedlaethau o’r Sgweiriaid ar yr adeilad ac ar weithgaredd gorffennol yr eglwys.
Mae Eglwys Newydd yr Hafod, a elwir hefyd yn Eglwys yr Hafod, yn gysygredig i Sant Mihangel a’r Holl Angylion. Mae’r eglwys yn adeilad trawiadol Gradd II*, sydd â chyfoeth o hanes diddorol ond trist, wedi ei lleoli mewn ardal dawel, ar gyrion ystad hudolus yr Hafod, a hynny mewn ardal ar Fynyddoedd yr Elennydd.
Adeiladwyd yr eglwys gyntaf ar y safle yn 1602 gan Morgan Herbert, a oedd wedi sefydlu ei hun fel Sgweier Hafod Uchtryd, a hynny ar ôl prynu prydlesi ffermydd a oedd yn perthyn i fynachlog Abaty Ystrad Fflur. Yn y ddeunawfed ganrif, priododd ei ferch, sef etifedd y teulu Herbert â Thomas Johnes o Ddolaucothi a Llanfair Clydogau, bu farw yn ddiblant, ond fe arhosodd y stad yn nheulu’r Johnes.
Plasty’r Hafod
Yn 1780, etifeddodd Thomas Johnes yr ystad a daeth yn arloeswr ym maes dulliau newydd o ffermio a choedwigaeth. Daeth Ystad yr Hafod yn un o’r tirweddau mwyaf trawiadol yn Ewrop, ac yn gyrchfan hanfodol i ymwelwyr . (Gellir gweld copïau o’r hen lyfrau ymwelwyr yn yr eglwys.) Adeiladodd blasty hardd a gynlluniwyd gan Thomas Baldwin Caerfaddon; yna, yn 1803, comisiynodd James Wyatt, a gâi ei adnabod yn bennaf am adnewyddu Eglwys Gadeiriol Caersallog, i gynllunio eglwys newydd drawiadol Gothig ei gwedd. Roedd Thomas Johnes yn Aelod Seneddol ac yn teithio i bedwar ban byd. Roedd yn gasglwr nodedig, a byddai’n dod â rhai o drysorau’r byd yn ôl gydag ef i’w blasty ac i’r eglwys. Roedd yna ddarn gan Fuseli ar yr allor yn yr eglwys. Comisiynodd stiwdio enwog Eleanor Coade i greu pulpud, ynghyd â bedyddfaen wedi’i haddurno ag arfbais y teulu Johnes a ffigyrau’n cynrychioli’r Prif Rinweddau.
Y Bedyddfaen
Roedd Eleanor Coade (3 Mehefin 1733 i 16 Tachwedd 1821) yn wraig fusnes o Brydain a oedd yn adnabyddus am lunio cerfluniau Neoglasurol ac addurniadau pensaernïol wedi’u creu o Lithodipyra (carreg Coade), a hynny am gyfnod o dros hanner canrif o 1769 hyd at ei marwolaeth. Creodd waith maen ar gyfer Capel Sant George, Windsor a Phalas Buckingham ymhlith nifer o leoedd eraill o ddiddordeb. Mae’r fedyddfaen i’w gweld yn yr eglwys heddiw.
Prynodd wydr lliw y Dadeni o eglwys abadol yn Antwerp gogyfer ar ffenest gorllewinol, fe’i hystyriwyd fel y casgliad harddaf o wydr lliw y Dadeni yng Nghymru. Dinistriwyd y ffenest yn y tân ond llwyddwyd i achub darnau o’r gwydr hwn o blith y teils a’r metel tawdd a oedd ar wasgar ar y llawr yn dilyn y tân trychinebus, 1932. Dosbarthwyd y rhain yn ddiemwntau ac yn gylchigau, ac fe’u rhoddwyd yn y ddwy ffenestr ar y naill ochr i ffenestr ganol y gangell. Mae’r rhain hefyd i’w gweld yn yr eglwys heddiw.
Cofeb y Siantri
Yn anffodus, bu farw unig blentyn Thomas Johnes, sef Mariamne, pan oedd ond 27 mlwydd oed. Yn dilyn ei farwolaeth ef comisiynodd Stiwdio Francis Chantry i gerflunio cofeb o farmor er cof amdani i’r eglwys. Roedd Syr Francis Leggatt Chantrey, 1781–1841, yn gerflunydd a oedd yn arbenigo mewn portreadau rhagorol. Fe gâi ei edmygu’n fawr am ei astudiaethau treiddgar o gymeriadau, ynghyd â llinellau cywrain ei benddelwau a’i gerfluniau. Ei gofeb o Mariamne oedd ei gyflawniad mawr cyntaf ym maes celf angladdol. Roedd model y gofeb yn rhy fawr i’w arddangos yn yr Academi, ac fe’i arddangoswyd yn Spring Gardens, Llundain yn 1812. Mae’n debyg bod Thomas Johnes wedi’i lethu gan emosiwn pan welodd y gwaith gorffenedig yn y stiwdio. Bu yntau farw yn 1816, ac fe’i claddwyd mewn siambr gladdu gyda’i ferch ym mynwent Eglwys yr Hafod. Flynyddoedd yn ddiweddarach, trosglwyddwyd y gofeb o farmor i’r eglwys, trwy garedigrwydd Dug Newcastle, perchenog yr Ystad ar y pryd. Yn anffodus, dinistriwyd eto y gofeb o farmor yn nhân 1932, ond mae rhannau ohoni i’w gweld o hyd. Ymhlith y trysorau hanesyddol eraill a achubwyd o’r tân roedd wrn Bysantaidd a oedd, ar un adeg, ym, merchnogaeth mynachod Ystrad Fflur. Fe’i rhoddwyd yn ôl at ei gilydd ac mae ganddi ei phriod le yn yr eglwys unwaith eto.
Difrod y tân.
Nid yw ymddangosiad allanol yr eglwys wedi newid rhyw lawer, ond yn anffodus cafodd y to a’r addasiadau mewnol Gothig eu difrodi’n wael gan dân 1932. Goruchwyliwyd y gwaith adnewyddu rhagorol a wnaed y tro hwn gan W. D. Caroe. Ef oedd yn gyfrifol am ddylunio’r nenfwd derw deniadol, siâp casgen, ynghyd â’r dodrefn a’r addurniadau cain, hynod fanwl sydd i’w gweld yn yr eglwys heddiw, a cant eu edmygu gan y miloedd o ymwelwyr .
Mae’r eglwys wedi bod yn rhan annatod o’r gymuned am dros 400 o flynyddoedd. Mae nifer o Sgweiriaid yr Ystad wedi’u claddu yn y fynwent, ynghyd â Chapteiniaid y gweithfeydd mwyn lleol, mwyngloddwyr, ffermwyr, bugeiliaid, crefftwyr, masnachwyr a gweithwyr yr Ystad. Mae yna lawer o waith ymchwil wedi’i wneud i’r hanes cymdeithasol, ac mae gennym giosg sgrin gyffwrdd yn yr eglwys bellach i alluogi ymwelwyr sy’n ymchwilio i’w hanes teulu ddod o hyd i feddau eu hanwyliaid yn hwylus. Mae’r Sefydliad Cadwraeth wedi cadarnhau bod un o goed y fynwent gyda’r hynaf yng nghanolbarth Cymru.